|
1,(2,4),5; 1,3,5.
O! Ysbryd Sancteiddiolaf,
Anadla arna'i lawr,
O'r cariad anchwiliadwy
Sy'n nghalon Iesu mawr;
Trwy haeddiant Oen Calfaria,
Ac yn ei glwyfau rhad,
'Rwy'n dysgwyl pob rhyw ronyn
O burdeb gan fy Nhad.
Digoner fi a'th ddelw
Ddigymhar uwch y nen,
A gollais yn Mharadwys
Wrth fwyta frwyth y pren;
Rhoi'st imi fil fendithion,
Ond byth anfoddlon wy',
O eisieu cael dy Ysbryd
A'i anian nefol fwy.
Wel dyma'r man dysgwyliaf
O fore hyd brydnawn,
Ar fy eilunod taeog
Fod yn goncwerwr llawn:
Dy Yspryd, Iesu grasol,
A all fy ngwneyd yn lān;
Mil mwy sydd ganddo o allu
Nag sydd yn uffern dān.
'Mhen gronyn byddai'n gorwedd
O fewn y ddaear ddu;
Y tafod sy'n gweddio
Yr awrhon arnat Ti,
A bydra yn y dyfnder,
Ni lefa arnat mwy;
O, edrych ar fy nghystudd,
Iachā fy ngwahan-glwy'.
O! Ysbryd pur nefolaidd,
Cyn 'r'elwy' lawr i'r bedd,
Trwy ryw athrawiaeth hyfryd,
Gad imi brofi'th hedd!
Cael profi
blas maddeuant,
Maddeuant llawn a rhad,
Yw'r cynta' peth wy'n geisio,
Yn awr trwy rin y gwaed.
William Williams 1717-91
- - - - - O! Ysbryd Sancteiddiolaf, Anadla arna'i lawr, O'r cariad anchwiliadwy Sy'n nghalon Iesu mawr; Trwy haeddiant Oen Calfaria, Ac yn ei glwyfau rhad, 'Rwy'n dysgwyl pob rhyw ronyn O burdeb gan fy Nhad. Tyrd, Ysbryd Glān sancteiddiol, Anadla'r nefol ddawn: Gwna heddiw gynnwrf grasol Mewn esgyrn sychion iawn: Dy nerthoedd rhoi gydfyned Ā geiriau pur y nef; Dy air yn nerthol rheded, Mewn goruchafiaeth gref.1: William Williams 1717-91 2: Thomas Jones 1756-1820
Tonau [7676D]: gwelir: Ei waith fel Archoffeiriad O Ysbryd pur nefolaidd Tyr'd Ysbryd Glān sancteiddiol |
O most Holy Spirit,
Breathe down upon me,
From the unsearchable love
Which is in the heart of great Jesus;
Through the merit of the Lamb of Calvary,
And in his gracious wounds,
I am waiting every moment
For purity from my Father.
Satisfy me with thy image
Incomparable above the sky,
Which I lost in Paradise
By eating the fruit of the tree;
Thou gavest to me a thousand blessings,
But forever unsatisfied I am,
From need of getting thy Spirit
And his heavenly nature evermore.
See here is the place I am expecting
From morning until evening,
Over my servile idols
To be a full conqueror:
'Tis thy Spirit, gracious Jesus,
That can make me clean;
He has a thousand times more power
Than there is in hell fire.
After a while I would be lying
Within the black earth;
The tongue which is praying
This hour to Thee,
Shall decay in the depth,
It shall no more cry to thee;
O, look upon my affliction,
Heal my leprosy.
O pure, heavenly Spirit,
Before I go down to the grave,
Through some delightful teaching,
Let me experience thy peace!
To get to experience
a taste of forgiveness,
Forgiveness full and free,
Is the first thing I am seeking,
Now through the virtue of the blood.
- - - - - O Most Holy Spirit, Breathe down upon me, From the unsearchable love Which is in the heart of great Jesus; Through the merit of the Lamb of Calvary, And in his gracious wounds, I am waiting every moment For purity by my Father. Come, sanctifying Holy Spirit, Breathe the heavenly gift: Make today a gracious stirring Within very dry bones: Thy powers grant to confirm The pure words of heaven; May thy word run powerfully, In a strong supremacy.tr. 2016,18 Richard B Gillion |
|